Song: Weithie sdim isie geirie
Year: 2017
Viewed: 107 - Published at: 7 years ago

[Aneirin Karadog, Eurig Salisbury, Y Ddau]
Withe, sdim isie geirie
Weithie, dim ond geirie sy isie
Withe, mae gwbod yn ddigon
Weithie, does dim digon yn gwbod
Withe, wi’n gwbod be ti’n meddwl
Weithie, dwi’n meddwl ‘Be ti’n wbod?’
Withe, sa i’n siŵr os wi’n cytuno
Dwi’n cytuno, ond sa i’n siŵr
Withe, ti’n unig sy’n deall
Weithie, dwi’n deall dy fod ti yn unig
Ond dwi’n gwbod y byddi di bob tro
Yna pan fydda i dy angen di
Sbo!

( Aneirin Karadog ac Eurig )
www.ChordsAZ.com

TAGS :